Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig

Y cyfeirlyfr mwyaf cynhwysfawr i’w gyhoeddi yng Nghymru erioed

Gwyddoniadur yr Academi Gymreig yw’r cyfeirlyfr mwyaf cynhwysfawr i’w gyhoeddi yng Nghymru erioed. Rhwng cloriau’r gyfrol odidog hon ceir erthyglau am yr holl bobl, lleoedd a digwyddiadau sydd wedi cyfrannu at greu cyfoeth diwylliannol, hanesyddol a daearyddol Cymru ... Mwy

 

Archebwch nawr

Prynwch eich copi am £55 neu'r ddau am £100 yn unig!


Archebwch nawr!

Beth sy’n newydd?
Rugby
 
 
Pwy?

Tom Jones Cymry enwog. Cymry da. Cymry diarhebol o ddrwg. Yr arwyr a’r arwresau na chawsant eu haeddiant, boed yn fodau hanesyddol neu’n ddim ond ffrwyth dychymyg. Maen nhw i gyd yma.

Wyddoch chi mai dyn a aned yn Nhreorci, Donald Davies (1924–99), oedd y cyntaf i alluogi cyfrifiaduron i siarad â’i gilydd gan wneud y rhyngrwyd yn bosibl? Neu bod mynydd ucha’r byd wedi ei enwi ar ôl y Cymro, George Everest (1790–1866), tirfesurydd geodesig nodedig?

Ble?

Castell HarlechO unigeddau urddasol i drefi diwydiannol byrlymus, caiff pob treflan yng Nghymru, boed fach neu fawr, ei chrybwyll yn y llyfr hwn.

Wyddoch chi mai Abertawe yw dinas wlypaf Prydain? Mai gan Gaerwent mae’r amddiffynfeydd dinesig Rhufeinig a oroesodd orau yng ngogledd Ewrop? Mai yn Nôl-y-bont y cafwyd y fferm organig gyfoes gyntaf ac iddi wedyn ddod yn adnabyddus fel Rachel’s Dairy? Neu mai yng Nghymru y lladdwyd y blaidd olaf, yng Nghregina?

Beth?

Cynulliad Cenedlaethol CymruGwleidyddiaeth, hinsawdd, dawns, diwydiant, celfyddyd, chwaraeon, cerddoriaeth, byd natur, theatr, cyfryngau, iaith, economi – dim ond rhai o’r pynciau a geir rhwng cloriau’r llyfr anhygoel hwn, sy’n llawn ffeithiau syfrdanol ac annisgwyl.

Wyddoch chi fod yna fwy o baffwyr ym Morgannwg nag unman arall ym Mhrydain? Fod Cymru’n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae’n ei ddefnyddio? Neu mai Cwrw Felinfoel oedd y cyntaf yn Ewrop i gael ei werthu mewn caniau?

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol