Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
John Davis

John Davies

John DaviesBrodor o’r Rhondda yw John Davies. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron ac yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Addysgodd yng Ngholegau Prifysgol Abertawe ac Aberystwyth ac roedd yn Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, am ddeunaw mlynedd. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Cardiff and the Marquesses of Bute, Hanes Cymru, A History of Wales, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, The Celts a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru. Yn 1997, ef oedd areithydd cyweirnod cyfarfod agoriadol Cymdeithas Astudio Hanes a Diwylliant Cymreig Gogledd America. Mae wedi darlledu yn helaeth, yn enwedig ar bynciau hanesyddol. Mae ei wraig yn dod o Flaenau Gwent ac mae ganddynt dwy ferch a dau fab. Er ei fod yn byw yn Grangetown, Caerdydd, yn aml bydd yn teithio i’w ardd yng nghefn gwlad Ceredigion.


John DaviesMenna BainesNigel JenkinsPeredur Lynch

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol