John Davies
Brodor o’r Rhondda yw John Davies. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron ac yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt. Addysgodd yng Ngholegau Prifysgol Abertawe ac Aberystwyth ac roedd yn Warden Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, am ddeunaw mlynedd. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Cardiff and the Marquesses of Bute, Hanes Cymru, A History of Wales, Broadcasting and the BBC in Wales, The Making of Wales, The Celts a Cardiff: a Pocket Guide. Ef yw golygydd ymgynghorol a chyd-olygydd Gwyddoniadur Cymru. Yn 1997, ef oedd areithydd cyweirnod cyfarfod agoriadol Cymdeithas Astudio Hanes a Diwylliant Cymreig Gogledd America. Mae wedi darlledu yn helaeth, yn enwedig ar bynciau hanesyddol. Mae ei wraig yn dod o Flaenau Gwent ac mae ganddynt dwy ferch a dau fab. Er ei fod yn byw yn Grangetown, Caerdydd, yn aml bydd yn teithio i’w ardd yng nghefn gwlad Ceredigion.












