Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Menna Baines

Menna Baines

Menna  BainesGweithio ar fy liwt fy hun, yn ysgrifennu, golygu a sgriptio, yr oeddwn pan gefais wahoddiad gan yr Academi, yn ôl yn 1999, i ddod yn rhan o dîm golygyddol y Gwyddoniadur. Hyd at dair blynedd cyn hynny, roeddwn wedi bod yn gweithio’n llawn-amser ar gylchgronau Cymraeg, yn gyntaf fel golygydd celfyddydau Golwg (1988–91) ac yna fel golygydd Barn (1991–6). Wedi rhywfaint o betruso, penderfynais fachu’r cyfle golygyddol newydd hwn. Roedd yn swnio’n gyffrous. Abwyd arall oedd y ffaith fod y gwaith yn cael ei gynnig fel gwaith rhan-amser – byddai’n ffynhonnell incwm reolaidd ond ar yr un pryd byddai’n gadael ychydig o amser i wneud pethau eraill.

Ie, wel … Buan y ciliodd y ‘pethau eraill’ i’r cefndir wrth i’r Gwyddoniadur gymryd drosodd. Y dasg fawr gyntaf oedd cynllunio’r llyfr a hynny gyda chymorth anhepgor ein hymgynghorwyr golygyddol arbenigol. Yna, mynd ati i gomisiynu ein cyfranwyr (bron 400 ohonynt) – gwaith a ymddangosai’n ddiddiwedd ar y pryd. Dim ond wedyn y gallai’r golygu ddechrau o ddifri. Erbyn inni ddechrau darllen y proflenni, roedd bron wyth mlynedd wedi mynd heibio. Roeddwn wedi symud tŷ bump o weithiau, wedi symud swyddfa ddwywaith, wedi cael dau o blant, wedi cyrraedd fy neugain oed, wedi cyhoeddi llyfr … ac roedd y Gwyddoniadur yn dal yno, yn sglaffio gofod ar y cyfrifiadur, yn meddiannu’r e-bost, yn creu pentyrrau uwch ac uwch o bapur ymhobman ac yn mynnu sleifio i mewn i bob sgwrs. Na, doedd dim cau’r drws am bump ar ‘Psycho’, fel yr oeddem wedi dechrau ei alw’n weddol fuan y hanes y cynllun. Daeth hynny’n fwyfwy gwir wrth i Peredur, fy nghymar, ddechrau rhoi talpiau helaeth o’i amser fel darlithydd prifysgol i roi cymorth yn y dasg o olygu 700,000 o eiriau, gan chwyddo’r tîm o olygyddion o dri i bedwar. Roedd y llyfr a’i gynnwys ar ein meddyliau’n barhaus, hyd yn oed pan na fyddem wrth ein cyfrifiaduron. A ddylai hwn a hwn neu hon a hon fod i mewn? A oedd hi’n werth torri’r erthygl bapur newydd yna allan a’i chadw yn y ffeil? A oedd Eglwys Sant beth bynnag yn Llanrhywbeth yn dal ar ei thraed? A oeddem wedi gyrru’r newid bach yna i John a Nigel ar gyfer ei ymgorffori yn y Saesneg hefyd?

Ar ôl yr holl ffidlan gyda geiriau, ffeithiau a dyddiadau, ac ar ôl yr holl chwys a llafur – a dagrau a chwerthin hefyd – mae’n rhyfedd meddwl y bydd y llyfr o’r diwedd yn gweld golau dydd mewn ychydig fisoedd. Bydd hwnnw’n ddiwrnod hapus. Teimlaf falchter mawr o fod wedi cael bod yn rhan o’r cynllun hwn, yr antur hon, ac o fod wedi cael cydweithio â phobl y mae gennyf gymaint o barch ac edmygedd tuag atynt. Mawr hefyd yw fy rhyddhad wrth weld y gwaith yn dirwyn i ben. Anodd, bellach, yw dychmygu sut beth fydd bywyd heb yr anghenfil hwn.


John DaviesMenna BainesNigel JenkinsPeredur Lynch

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol