Cymeradwyir Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig gan Mike Ruddock
25.07.07
Mike Ruddock
Hyfforddwr tîm buddugol y Gamp Lawn a chyfarwyddwr Clwb Rygbi'r Worcester Warriors
Dywedodd Mike Ruddock, “Fel Cymro balch, mae’n fraint o’r mwyaf cael fy nghrybwyll yn y ffynhonnell wybodaeth arbennig hon. Roedd ennill y Gamp Lawn nid yn unig yn ddigwyddiad y gallai’r chwaraewyr a’r tîm rheoli ymfalchïo ynddo, ond hefyd pob Cymro angerddol drwy’r wlad - ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cael ei gofnodi yn y cyhoeddiad hanesyddol hwn. I nifer o bobl mae rygbi fel symbol o hunaniaeth Gymreig, ac rwy’n sicr y bydd yr adran rygbi yn y Gwyddoniadur yn boblogaidd iawn ac edrychaf ymlaen yn fawr at ei gyhoeddiad ym mis Tachwedd!”












