Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfr hwn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Cymeradwyir Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan Tom Jones

Cymeradwyir Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gan Tom Jones

Tom Jones

28.09.07

Dywedodd Syr Tom Jones, "Mae'n fraint o'r mwyaf i gael fy nghrybwyll yn y ffynhonnell wybodaeth ardderchog hon. Er fy mod yn byw yn yr Unol Daleithiau ac yn teithio ar draws y byd, rwy'n Cymro i'r carn, ac rwy'n sicr y byddaf yn dysgu amrywiaeth o ffeithiau diddorol am fy ngwlad enedigol a'i phobol drwy ddarllen y Gwyddoniadur yn ogystal â bod yn anrheg ddelfrydol i ffrindiau ledled y byd sydd am wybod mwy am Gymru. Fel cenedl, rydym yn enwog am ein cerddoriaeth a'n cantorion, a llawer ohonynt heb gael cydnabyddiaeth teilwng am eu talentau.

Fe fydd y Gwyddoniadur yn gwneud yn iawn am hyn gan ddarparu ffynhonnell ysgrifenedig am gyraeddiadau ffigyrau'r gorffennol a'r presennol er budd gwybodaeth y cenedlaethau i ddod. Rwy'n falch iawn o gael gweud fy mod i wedi fy nghynnwys ar dudalennau Gwyddoniadur Cymru!"

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol