Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Eisteddfod yr Urdd

Eisteddfod yr Urdd

Yr Eisteddfod

03.04.09

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 25 a 29 Mai. Bydd Gwasg Prifysgol Cymru ar y maes trwy'r wythnos er mwyn darparu hwyl a sbri – ac efallai bach o lonydd i rieni blinedig! Ymunwch â ni ar ein stondin a chewch brynu Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig am bris arbennig o £45. Bydd gweithgareddau hwylus ar gael i'r plant, gan gynnwys cwisiau a gemau, a bydd cyfle i bawb ddysgu rhywbeth newydd trwy bori trwy'r ffeithiau diddiwedd sydd i'w darganfod yn y Gwyddoniadur. Bydd hefyd gan bawb sy'n prynu'r llyfr cyfle i ennill wobr felly mi fydd yn werth chweil!

Dewch i stondin rhif 52–53 ar ddydd Gwener 29 Mai am 2yp er mwyn cwrdd â chyd-olygydd John Davies. Grandewch arno'n ddarllen o lyfr fwyaf swynol Cymru a byddwch yn barod i wybod mwy am Gymru nag y wyddoch erioed!

Am fwy o wybodaeth ar Eisteddfod yr Urdd, ewch i'w gwefan:  http://www.urdd.org/index

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol