Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfr hwn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Fe fydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn cael ei lansio ar y 31ain o Ionawr 2008

Fe fydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn cael ei lansio ar y 31ain o Ionawr 2008

Gwyddoniadur

01.10.07

A wyddech chi?

• Beibl Cymraeg 1588, 21 mlynedd yn hwyr
• Pont Menai, 5 mlynedd yn hwyr
• Airbus A380 superjumbo, 48 o fisoedd yn hwyr
• Stadiwm Wembley, 24 mis yn hwyr
• Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, 18 mis yn hwyr
• Canolfan y Mileniwm Cymru, Caerdydd, 14 mis yn hwyr
• ……Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig…. Dim ond 2 fis yn hwyr

Fe fydd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn cael ei lansio’n swyddogol ar y 31ain o Ionawr 2008 yn hytrach na’r dyddiad a glustnodwyd yn wreiddiol, sef y 14 o Dachwedd 2007. Achoswyd yr oedi byr gan broblemau anrhagweladwy yng nghamau olaf y gwaith o gynhyrchu’r llyfr.
Dywedodd Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi, “Tra mae’r oedi yn anffodus ac yn siom i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r prosiect, gobeithiwn y bydd pobl yn deall nad ar chwarae bach y mae cyhoeddi llyfr o’r pwysigrwydd a’r maintioli hwn. Ar ôl degawd o waith ysgrifennu, ymchwilio a golygu manwl, mae’n hollbwysig fod digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau fod y ddwy gyfrol mor fanwl gywir ag sy’n bosib i gyrraedd y safonau golygyddol uchaf; wedi’r cyfan, rhaid i’r gyfrol sefyll am genedlaethau i ddod.”

“Hoffwn ymddiheuro o waelod calon i’r holl bobl sydd wedi archebu copïau o flaen llaw, neu oedd yn bwriadu anfon copi o Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig fel anrheg Nadolig. Mae hwn yn gyhoeddiad gwerth aros amdano ac o leia mae gan bawb sydd wedi archebu copi rywbeth i edrych ymlaen at ei ddarllen yn ystod dyddiau hir a thywyll Ionawr.”

Mae Gwasg Prifysgol Cymru, cyhoeddwyr Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, wedi cyhoeddi bod estyniad yn awr ar gyfer archebu o flaen llaw am £50 ynghyd â phecynnu a phostio’n rhad ac am ddim (o fewn y Deyrnas Unedig), a hynny hyd at y 31ain o Ragfyr 2007. Mae’r wasg wedi cadarnhau fod y cynllun archebu o flaen llaw, a oedd i fod i ddod i ben ar ddiwedd mis Medi, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda chynifer â 4,500 o gopïau wedi eu harchebu. Fe all cwsmeriaid archebu copi drwy wefan Gwasg Prifysgol Cymru ar www.gwyddoniadurcymru.com neu drwy eu siop lyfrau leol.

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol