Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn cael ei gyhoeddi
17.03.08
Yn dilyn degawd o waith caled cyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ar 31 Ionawr 2008. Teithiodd golygyddion John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch ar draws y wlad er mwyn cwrdd â darllenwyr oedd yn awyddus i gael gafael ar gopi arwyddedig o'r gyfrol.

Lansiwyd y llyfr yn swyddogol y diwrnod nesaf yn y Senedd ym Mae Caerdydd. Roedd y pedwar golygydd yn bresennol am yr achlysur tyngedfennol, yn ogystal â llu o wynebau adnabyddus o Gymru. Ymhlith y rhai a mynychwyd oedd Archesgob Caergaint Rowan Williams a Llywydd y Cynulliad Yr Arglwydd Dafydd Elis–Thomas.













