Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Lansiad Ffair Lyfrau Frankfurt

Lansiad Ffair Lyfrau Frankfurt

Frankfurt 1

01.11.07

Gwahoddwyd prif gwsmeriaid a dosbarthwyr masnachol i lansiad Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ym mharti gynhaliwyd gan Wasg Prifysgol Cymru a Busnes Rhyngwladol Cymru, yn Ffair Lyfrau Frankfurt ym mis Hydref.

Er gwaethaf y newyddion siomedig diweddar y bydd y Gwyddoniadur ar gael yn Ionawr 2008 ac nid yn Nhachwedd 2007 fel y cynlluniwyd yn wreiddiol, roedd yr awyrgylch yn obeithiol a disgwyliad yn uchel ar gyfer cyhoeddiad y llyfr rhagorol hwn. Mae dosbarthwyr rhyngwladol wrthi'n paratoi am y cyhoeddiad hanesyddol hwn: mae ein partneriaid yng Ngogledd America, Gwasg Prifysgol Chicago, yn disgwyl derbyn miloedd o gopïau ar gyfer eu dyddiad cyhoeddi o 1 Mawrth ac mae cynrychiolwyr Siapaneaidd ac Ewropeaidd wrthi'n ymchwilio marchnadoedd posib ar gyfer y llyfr ar draws eu hardaloedd hwy. Ni fydd cymunedau alltud yn Seland Newydd, Awstralia ac Asia yn colli allan gan fydd darparwyr masnachol ar draws y byd yn derbyn gwybodaeth ynglŷn a'r Gwyddoniadur.

Ffair Lyfrau Frankfurt yw'r digwyddiad mwyaf yng nghalendr y byd cyhoeddi a gwerthu llyfrau, ac oherwydd cymorth Busnes Rhyngwladol Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru, mae Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig wedi cael cyflwyniad teilwng i'w gynulleidfa rhyngwladol.

 

 

 

 

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol