Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfrau hyn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Nigel Jenkins

Nigel Jenkins

Nigel JenkinsFe’m ganwyd ar fferm ar Benrhyn Gŵyr yn 1949, ac er i mi wybod o ddyddiau llencyndod fy mod am fod yn ysgrifennwr, feddyliais i erioed y byddwn i un diwrnod yn golygu gwyddoniadur. Dechreuais fy mywyd ysgrifennu fel gohebydd papur newydd yng Nghanolbarth Lloegr ac, yna, ar ôl blwyddyn o wneud yr hyn a’r llall a chrwydro Ewrop a Gogledd Affrica, fe es i Brifysgol Essex i astudio llenyddiaeth a ffilm, gan ddod o hyd i amser bob dydd i weithio ar fy ngherddi (rwyf wedi cyhoeddi tua hanner dwsin o lyfrau o gerddi, gyda’r diweddaraf yn gasgliad o haiku, O For a Gun (2007)). Yna, fe ddychwelais i Benrhyn Gŵyr i weithio fel ysgrifennwr a darlithydd llawrydd.

Mae’n bosibl mai ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 1996, gyda llyfr am genhadon Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India, Gwalia in Khasia (1995), oedd yr hyn a arweiniodd at y gwahoddiad i gyd-olygu Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Ar y pryd, roedd yn ymddangos yn gyfrifoldeb enfawr a brawychus, ond fe’m sicrhawyd mai swydd ran-amser fyddai hi ac na fyddai’n cymryd mwy na dwy neu dair blynedd. Gyda hynny o anogaeth, ynghyd â’r cyfle i weithio gyda chydweithwyr mor ysbrydoledig a chydnaws, derbyniais y gwahoddiad.

Ychydig iawn a feddylion ni y byddai’r prosiect hwn yn llywodraethu ein bywydau am yn agos i ddeng mlynedd. Yr unig amser a gawn i ysgrifennu fy ngwaith fy hun oedd cyfansoddi haiku – ar y daith feic ugain munud rhwng fy nghartref yn y Mwmbwls â Phrifysgol Cymru Abertawe (a fu’n ddigon hael i roi swyddfa i’r prosiect ac a roddodd swydd i mi yn ddiweddarach yn dysgu ysgrifennu creadigol).

Ond beth bynnag a fu’r aberth i bob un ohonom, bu’n werth ei gwneud: fe gredwn ein bod wedi cynhyrchu llyfr a fydd, am y tro cyntaf, yn diffinio Cymru a llyfr a fydd yn ddefnyddiol i Gymru am flynyddoedd mawr.


John DaviesMenna BainesNigel JenkinsPeredur Lynch

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol