Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfr hwn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Peredur Lynch

Peredur l. Lynch

Peredur LynchBrodor o Garrog yn yr hen Sir Feirionnydd yw’r Athro Peredur I. Lynch. Ar ôl graddio yn y Gymraeg ym Mangor, bu’n Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1985 a 1990 ac yna’n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe. Dychwelodd i’w hen adran yn ddarlithydd yn 1995. Fe’i dyrchafwyd yn Athro yn 2005 ac ef oedd Pennaeth Adran y Gymraeg rhwng 2003 a 2006.

Y mae’n arbenigwr ar waith Beirdd y Tywysogion a golygodd weithiau beirdd fel Einion Wan, Llygad Gŵr a Meilyr Brydydd. Y mae ganddo gyhoeddiadau lluosog ym maes llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a chyfrannodd yn helaeth i Gyfres Beirdd y Tywysogion (1991–6), sef y golygiad arloesol cyntaf o waith Beirdd y Tywysogion. Y mae hefyd yn awdurdod ar dwf a datblygiad y gynghanedd a’r canu caeth: cyhoeddwyd ei astudiaeth o gynganeddion Dafydd ap Gwilym – yr astudiaeth drylwyraf o’i bath – yn y gyfrol Cyfoeth y Testun a gyhoeddwyd yn 2003. Bu hefyd yn arwain project (2002–5) ym Mangor ar ganu proffwydol Cymraeg yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Noddwyd y project hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), a bydd ffrwyth yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yn Hydref 2007.


John DaviesMenna BainesNigel JenkinsPeredur Lynch

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol