Gwybodaeth Bersonol
Nid yw Prifysgol Cymru'n dal na storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy'n defnyddio'r wefan hon, ar wahân i:
pan wneir ymholiadau am neu yr archebir llyfrau a nwyddau eraill oddi wrth Gwasg Prifysgol Cymru.
Yn yr achosion hyn, defnyddia Prifysgol Cymru'r wybodaeth bersonol a roddir gennych i ddarparu'r wybodaeth gyfredol am y Brifysgol neu ei sefydliadau, eu swyddogion a'u gwasanaethau canolog, fel y disgrifir hwy ar y wefan hon. Nid ydym yn pasio dim o'ch data personol i unrhyw gorff y tu allan i Sefydliadau'r Brifysgol nac i unrhyw unigolion, ac eithrio lle bo hynny'n angenrheidiol i gyflenwi archeb am nwyddau.
'Cookies'
Yr unig reswm y mae Prifysgol Cymru'n danfon 'cookies' yw i gynnal y cyflwr rhwng tudalennau, megis eglurdeb sgrin monitor neu iaith ddewisedig. Nid yw'n eu defnyddio i gasglu gwybodaeth bersonol o'r wefan hon. Caiff cyfeiriadau PRh ymwelwyr eu monitro i fesur pa dudalennau yw'r mwyaf poblogaidd yn unig. Nid ydynt wedi eu cysylltu i unrhyw ddata personol ac erys ymwelwyr i'n gwefan yn anhysbys.
Diogelu Data
Mae gennych hawl i wybod pa wybodaeth bersonol a gedwir gan Brifysgol Cymru amdanoch, os o gwbl. Mae gennych hefyd hawl i gywiro neu ddileu'r gyfryw wybodaeth Os oes gennych unrhyw geisiadau a/neu ymholiadau am ein polisi diogelu data, dylech eu cyfeirio at:
Swyddog Diogelu Data,
Prifysgol Cymru,
Cofrestrfa'r Brifysgol,
Rhodfa Brenin Edward VII,,
CAERDYDD CF10 3NS
E-bost: dataprot@wales.ac.uk
neu ymwelwch â'n gwefan ar Data Protection
Gall fod ffi'n daladwy am wybodaeth a ddarperir o dan delerau Deddf Diogelu Gwybodaeth 1998.
Ymholiadau
Gellir cyfeirio Ymholiadau eraill i'r Gwefeistr yn y cyfeiriad uchod, neu trwy e-bost ar webmaster@wales.ac.uk
Diffinio'r Termau a Ddefnyddir yn y Datganiad Hwn
Porwr
Meddalwedd a ddefnyddir i arddangos Gweddalennau
'Cookie'
Neges a roddir gan borwr gwe i weinydd gwe. Caiff y neges wedyn ei chadw gan y porwr mewn ffeil destun o'r enw cookie.txt. Bob tro y bydd y porwr yn gwneud cais am dudalen gan y gweinydd, caiff y neges hon ei danfon yn ôl.
PRh (Protocol Rhyngrwyd)
Mae pob rhwydwaith sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd yn defnyddio PRh, y safon dechnegol sy'n galluogi pob data i gael ei drosglwyddo rhwng dwy ddyfais. PRT/PRh (Protocol Rheoli Trosglwyddiad/Protocol Rhyngrwyd) sy'n gyfrifol am wneud yn siwr fod negeseuon yn mynd o un gwesteiwr i'r llall a bod negeseuon yn cael eu deall.
Cyfeiriad PRh
Rhaid i bob system a dyfais sy'n gysylltiedig â'r Rhyngrwyd gael cyfeiriad. Efallai na fyddwch bob amser yn gwybod beth yw cyfeiriad eich sytem, achos mae'n bosibl iddo gael ei glustnodi'n otomatig ar eich cyfer gan eich darprarwr gwasanaethau. Mae cyfeiriad PRh yn edrych yn debyg i hyn: 197.128.14.121
Gwasanaethwr Gwe
Y cyfrifiadur (neu gyfrifiaduron) sy'n cyflenwi tudalennau gwe i'ch cyfrifiadur dros y Rhyngrwyd.











