Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfr hwn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Y llyfr hwn

Gwyddoniadur Cymru un-gyfrol cynta erioed

CaerdyddPenllanw prosiect ar y cyd rhwng Gwasg Prifysgol Cymru a’r Academi Gymreig yw cyhoeddi Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, y bu disgwyl eiddgar amdano. Mae wedi’i ariannu gyda cefnogaeth ariannol pwysig o’r Cyngor Celfyddydau Cymru trwy’r Loteri Genedlaethol. Mae cyhoeddi'r Gwyddoniadur yn ddigwyddiad o bwysigrwydd genedlaethol ac yn nodi degawd o ymchwil, ysgrifennu a golygu trylwyr er mwyn creu'r llyfr pwysicaf i gael ei gyhoeddi yn hanes Cymru gyfoes.

Ceir popeth rhwng cloriau’r llyfr gwych hwn: o Eryri i’r pampas ym Mhatagonia, o’r beirdd hynafol i’r Super Furry Animals cyfoes, o arwyr y werin i gampwyr Olympaidd Cymru, a dynion a menywod o Gymru sydd wedi rhagori mewn celfyddyd, diwylliant, masnach a gwleidyddiaeth.

Dyma’r tro cyntaf i’r holl ddeunydd yma gael ei dynnu ynghyd mewn un man. Gyda thros bum mil o erthyglau wedi’u hysgrifennu gan dros bedwar cant o gyfranwyr a thros dri chant o ddarluniau lliw a du a gwyn, mae’n fenter uchelgeisiol. Nid oes unrhyw waith arall wedi cynnwys cymaint o agweddau o orffennol, presennol a dyfodol Cymru, ei phobl, ei llefydd, ei chelfyddydau, ei diwydiannau, ei hamgylchedd a’i thraddodiadau.

Tani Grey-ThompsonMae’r broses o gynhyrchu llyfr o’r maint hwn yn golygu tua 280 o oriau o argraffu ar gyfer y testun yn unig, gan ddefnyddio dwy wasg yn ddi-dor am wyth diwrnod. Yna rhaid casglu a rhwymo pob un o’i 69 o adrannau – dyna bum diwrnod arall. Yn dilyn hyn bydd y gwaith o bwytho dros filiwn o adrannau yn cymryd saith diwrnod i ddau bwythwr cyflym. Bydd y gyfrol derfynol yn pwyso 3 kilo.

Gellir mesur graddfa’r prosiect hwn yn hawdd gyda phob un o’r miliwn a mwy o eiriau sy’n gynwysedig yn y ddwy gyfrol, y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r tîm ymchwil, dan arweiniad yr hanesydd blaenllaw Dr John Davies, gyda chefnogaeth Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur I. Lynch, yn darllen fel rhestr o Bwy yw Pwy yn y Gymru gyfoes ac yn rhoi hygrededd deallusol a ffeithiol i’r prosiect i gyd-fynd â’r casgliad unigryw o eiriau a lluniau sydd i’w canfod o fewn y llyfr unigryw hwn.

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol