Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
                    
Hafan | Sut i archebu | Newyddion | Y llyfr hwn | Ynglŷn â’r golygyddion   Dolen i fersiwn Saesneg y dudalen hon ENGLISH  
 
Ynglŷn â’r golygyddion

Cyflwyniad gan yr Academi

Dechreuodd prosiect Gwyddoniadur Cymru yr Academi ddeng mlynedd yn ôl pan drodd Cymdeithas Llenorion Cymru yn Asiantaeth Hyrwyddo Llenyddiaeth Genedlaethol Cymru a dechrau ar ei gwaith o fynd â llenorion a llenyddiaeth i bedwar ban Cymru. Roedd yr Academi Gymreig mewn sefyllfa ddelfrydol o ran rheoli’r dasg anferthol o hidlo cyfoeth y genedl i un gyfrol. Mae’r Academi, wedi’r cyfan, yn cynrychioli holl awduron Cymru ac o’r dechrau’n deg mae wedi ceisio gwneud i gynnyrch llenyddol Cymru fynd ymhellach, bod yn gynhwysol, cynnal safonau a gwarchod a dathlu ein hunaniaeth amlweddog. Roedd y ffaith nad oedd un gyfrol gynhwysfawr yn bodoli a oedd yn cwmpasu’n grwn ein holl ddiwylliant yn ddiffyg amlwg ar daith Cymru tuag at hunan ymwybyddiaeth. Aeth yr Academi i’r afael â darparu cyfrol o’r fath.

Heb gefnogaeth ariannol bwysig Cyngor Celfyddydau Cymru trwy’r Loteri Genedlaethol, ni fyddem wedi gallu penodi ein pen hanesydd, John Davies, yn olygydd cyffredinol. Penodwyd gydag ef Menna Baines a Nigel Jenkins (ymunodd Peredur Lynch â’r tîm yn ddiweddarach) i gael y maen i’r wal. Yna comisiynwyd awduron Cymru o bob arbenigedd i ddarparu’r testun. Hawdd yntê? Nid mor hawdd.

Buan y trodd y prosiect tair blynedd arfaethedig yn daith hirach. O edrych yn ôl mae’n hawdd gweld pam – nid haiku mo hynt a helynt Cymru: mae’n debycach i epig. Roedd angen cwmpasu’r cyfan, mireinio arbenigedd, llyfnhau a chysoni gwahanol arddulliau, cywiro cyfieithiadau, chwilio am luniau, cael hyd i ffotograffau, tynnu mapiau a darganfod ffeithiau. A thrwy’r cyfan roedd y byd yn dal i droi a throi a phethau newydd yn dod i fodolaeth a oedd yn hawlio cyfansoddi cofnodau newydd amdanynt.

Gweithiodd y golygyddion yn galed am oriau bwy gilydd ac mae canlyniad eu llafur i’w weld yn y llyfrau eu hunain. Yma gallwch ddarllen am bopeth yng Nghymru sy’n cyfrif - o David Lloyd George i weithio glo yn ne Cymru, o Lyfr Du Caerfyrddin i’r gwahaniaeth rhwng gogs a hwntws, o gawl cennin i’r Academi Gymreig.

Cafwyd cymorth helaeth i’r prosiect. Cynigiodd y Prifysgolion yn Abertawe a Bangor swyddfeydd golygyddol, y BBC ei luniau, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei chyfleusterau hyrwyddo, Awdurdod Datblygu Cymru gymorth gyda thechnoleg gwybodaeth, a rhoddodd yr Academi ei hun yn helaeth o amser ei phaneli, ei phwyllgorau a’i swyddogion. O du’r golygyddion y daeth y gwir ymroddiad, wrth gwrs. Gweithiodd pob un ohonynt oriau lawer dros ben yr oriau cyflogedig, bu pob un yn drylwyr o ran chwilota am ffeithiau, cysoni testunau ac ymchwil gefndir. Arloesi oedd yn ben a chafwyd pob un yn gyfartal. Prynwch y llyfr a’i fwynhau.

Llyfr mawr cyntaf ac olaf Cymru. Ni ddylai’r un cartref fod heb un o’r rhain.


Prif Weithredwr yr Academi: Peter Finch

Awdur, bardd a mentrwr llenyddol. Bu’n rheoli Oriel, siop lyfrau Cyngor Celfyddydau Cymru, am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â’r Academi. Awdur nifer o gyfrolau, gan gynnwys Food (Seren), How to Publish Yourself a Real Cardiff.

 
 
Gwasg Prifysgol Cymru Academi Llywodraeth Cynulliad Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru Y Loteri Genedlaethol